Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

02 Rhagfyr 2019

SL(5)470 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi gwybodaeth y mae’n rhaid i naill ai’r landlord neu’r asiant gosod eiddo ei darparu i ddarpar ddeiliad contract, cyn y telir blaendal cadw. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu’r ffordd y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth. 

Os na ddarperir yr wybodaeth yn rheoliad 2(2) i ddarpar ddeiliad contract cyn y telir blaendal cadw, ni chaiff y landlord ddibynnu ar yr eithriadau a nodir ym mharagraffau 8, 9 a 10 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 a rhaid ad-dalu’r blaendal cadw. Mae rheoliad 2(3) yn nodi’r ffordd y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019

Fe’u gwnaed ar: 12 Tachwedd 2019

Fe’u gosodwyd ar: 15 Tachwedd 2019

Yn dod i rym ar: 13 Rhagfyr 2019